1 Kings 3:26 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd y wraig bioedd y mab byw wrth y brenin, (canys ei hymysgaroedd a gynesasai wrth ei mab,) ac a lefarodd, O fy arglwydd, rhoddwch iddi hi y bachgen byw, ac na leddwch ef ddim: ond y llall a ddywedodd, Na fydded eiddof fi na thithau, eithr rhennwch ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma fam y plentyn byw yn ymateb (achos roedd hi'n torri ei chalon wrth feddwl am y plentyn yn cael ei ladd). Dyma hi'n dweud wrth y brenin, “Syr, rho'r plentyn byw iddi hi. Da chi paid â'i ladd e.” Ond roedd y llall yn dweud, “Os nad ydw i'n ei gael e, gei di mohono chwaith — rhannwch e!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond meddai'r wraig oedd piau'r plentyn byw wrth y brenin (oherwydd enynnodd ei thosturi tuag at ei baban), "O f'arglwydd, rhowch iddi hi y plentyn byw, a pheidiwch 'i ladd ar un cyfrif."