1 Kings 3:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Solomon, Ti a wnaethost â'th was Dafydd fy nhad fawr drugaredd, megis y rhodiodd efe o'th flaen di mewn gwirionedd, ac mewn cyfiawnder, ac mewn uniondeb calon gyda thi; ie, cedwaist iddo y drugaredd fawr hon, a rhoddaist iddo fab i eistedd ar ei orseddfainc, fel y gwelir heddiw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Solomon, “Roeddet ti'n garedig iawn at Dafydd fy nhad wrth iddo fyw yn ffyddlon i ti, yn gywir ac yn onest. Ac rwyt ti wedi dal ati i fod yn arbennig o garedig drwy adael i mi, ei fab, fod yn frenin yn ei le.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Solomon, "Buost yn ffyddlon iawn i'm tad Dafydd, dy was, am iddo rodio gyda thi mewn gwirionedd a chyfiawnder a chywirdeb calon. Ie, parheaist yn ffyddlon iawn iddo, a rhoi iddo fab i eistedd ar ei orseddfainc heddiw.