1 Kings 4:31 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ie, doethach oedd efe nag un dyn; nag Ethan yr Esrahiad, na Heman, na Chalcol, na Darda, meibion Mahol: a'i enw ef oedd ymhlith yr holl genhedloedd oddi amgylch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Doedd neb doethach nag e. Roedd yn ddoethach nac Ethan yr Esrachiad, Heman hefyd, a Calcol a Darda, meibion Machol. Roedd yn enwog drwy'r gwledydd o'i gwmpas i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yr oedd yn ddoethach nag unrhyw un, hyd yn oed Ethan yr Esrahiad, neu Heman, Calcol a Darda, meibion Mahol; yr oedd ei fri wedi ymledu trwy'r holl genhedloedd oddi amgylch.