1 Kings 4:33 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Llefarodd hefyd am brennau, o'r cedrwydd sydd yn Libanus, hyd yr isop a dyf allan o'r pared: ac efe a lefarodd am anifeiliaid, ac am ehediaid, ac am ymlusgiaid, ac am bysgod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yn gallu siarad am blanhigion, o'r coed cedrwydd mawr yn Libanus i'r isop sy'n tyfu ar waliau. Roedd hefyd yn gallu traethu am anifeiliaid, adar, ymlusgiaid a phryfed a physgod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Traethodd am brennau, o'r cedrwydd sydd yn Lebanon hyd yr isop sy'n tyfu o'r pared; hefyd am anifeiliaid ac ehediaid, am ymlusgiaid a physgod.