1 Kings 5:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ti a wyddost am Dafydd fy nhad, na allai efe adeiladu tŷ i enw yr ARGLWYDD ei DDUW, gan y rhyfeloedd oedd o'i amgylch ef, nes rhoddi o'r ARGLWYDD hwynt dan wadnau ei draed ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ti'n gwybod fod fy nhad, Dafydd, ddim wedi gallu adeiladu teml i anrhydeddu'r ARGLWYDD ei Dduw. Roedd cymaint o ryfeloedd i'w hymladd cyn i'r ARGLWYDD ei helpu i goncro ei elynion i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Gwyddost am fy nhad Dafydd, na allodd adeiladu tu375? i enw'r ARGLWYDD ei Dduw o achos y rhyfeloedd o'i amgylch, nes i'r ARGLWYDD roi ei elynion dan wadnau ei draed.