1 Kings 5:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr yn awr yr ARGLWYDD fy NUW a roddodd i mi lonydd oddi amgylch, fel nad oes na gwrthwynebydd, nac ymgyfarfod niweidiol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond bellach, diolch i'r ARGLWYDD Dduw, mae gynnon ni heddwch llwyr. Does dim un gelyn yn ymosod arnon ni nac yn ein bygwth ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bellach, parodd yr ARGLWYDD fy Nuw imi gael llonydd oddi amgylch, heb na gwrthwynebydd na digwyddiad croes.