1 Kings 5:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fy ngweision a'u dygant i waered o Libanus hyd y môr: a mi a'u gyrraf hwynt yn gludeiriau ar hyd y môr, hyd y fan a osodych di i mi; ac yno y datodaf hwynt, a chymer di hwynt: ond ti a wnei fy ewyllys innau, gan roddi ymborth i'm teulu i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwnaiff fy ngweision i ddod â nhw i lawr o Libanus at y môr. Yno byddan nhw'n eu gwneud yn rafftiau, a mynd â nhw i ble bynnag wyt ti'n ddweud. Wedyn byddwn ni'n eu dadlwytho, a caiff dy weision di eu cymryd nhw. Cei di dalu drwy gyflenwi'r bwyd sydd ei angen ar fy llys brenhinol i.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Caiff fy ngweision eu dwyn i lawr o Lebanon at y mr, a byddaf fi'n eu gyrru'n rafftiau dros y mr i'r man a benni imi; byddaf yn eu datod yno, i ti eu cymryd. Cei dithau gyflawni fy nymuniad innau a rhoi ymborth ar gyfer fy mhalas."