1 Kings 6:27 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a osododd y ceriwbiaid yn y tŷ oddi fewn: ac adenydd y ceriwbiaid a ymledasant, fel y cyffyrddodd adain y naill â'r naill bared, ac adain y ceriwb arall oedd yn cyffwrdd â'r pared arall; a'u hadenydd hwy yng nghanol y tŷ oedd yn cyffwrdd â'i gilydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Solomon yn rhoi'r ddau geriwb ochr yn ochr yn y cysegr mewnol, gyda'i hadenydd ar led. Roedd adain y cyntaf yn cyffwrdd y wal un ochr i'r gell, ac adain y llall yn cyffwrdd y wal ar yr ochr arall. Ac roedd ail adain y ddau geriwb yn cyffwrdd ei gilydd yn y canol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gosododd y cerwbiaid yng nghanol y cysegr mewnol. Yr oedd eu hadenydd ar led, ac adain y naill yn cyffwrdd ag un pared ac adain y llall yn cyffwrdd 'r pared arall, a'u hadenydd yn cyffwrdd 'i gilydd yn y canol.