1 Kings 7:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mab gwraig weddw oedd hwn o lwyth Nafftali, a'i dad yn ŵr o Tyrus: gof pres ydoedd efe; a llawn ydoedd o ddoethineb, a deall, a gwybodaeth, i weithio pob gwaith o bres. Ac efe a ddaeth at y brenin Solomon, ac a weithiodd ei holl waith ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Hiram yn grefftwr medrus, profiadol yn gweithio gyda pres. Roedd yn fab i wraig weddw o lwyth Nafftali, ac roedd ei dad (oedd yn dod o Tyrus) wedi bod yn weithiwr pres o'i flaen. Roedd gan Hiram allu arbennig i drin pres. Daeth at y Brenin Solomon a gwneud yr holl waith pres iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
mab i wraig weddw o lwyth Nafftali, a'i dad yn hanu o Tyrus. Gof pres cywrain a deallus oedd ef, yn gwybod sut i wneud pob math o waith pres; a daeth at y Brenin Solomon a gwneud ei holl waith.