1 Kings 7:26 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ei dewder hefyd oedd ddyrnfedd, a'i ymyl fel gwaith ymyl cwpan, a blodau lili: dwy fil o bathau a annai ynddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y basn tua lled dwrn o drwch, ac roedd ei ymyl fel ymyl cwpan siâp blodyn lili. Roedd yn dal bron iawn bedwar deg pum mil litr o ddŵr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyrnfedd oedd ei drwch, a'i ymyl wedi ei weithio fel ymyl cwpan neu flodyn lili; yr oedd yn dal dwy fil o bathau.