1 Kings 7:30 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phedair olwyn bres oedd i bob ystôl, a phlanciau pres; ac yn eu pedair congl yr oedd ysgwyddau iddynt: dan y noe yr oedd ysgwyddau, wedi eu toddi ar gyfer pob cysylltiad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd gan bob troli bedair olwyn bres ar echelau pres. Ar bob cornel roedd silff fach i'r ddysgl eistedd arni. Roedd y rhain yn rhan o'r troli ac wedi eu haddurno gyda phlethiadau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd gan bob troli bedair olwyn bres ac echelau pres, ac ysgwyddau dan eu pedair congl ar gyfer y noe, a'r ysgwyddau yn waith tawdd, a phlethennau wrth bob un.