1 Kings 7:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hefyd efe a wnaeth borth o golofnau, yn ddeg cufydd a deugain ei hyd, ac yn ddeg cufydd ar hugain ei led: a'r porth oedd o'u blaen hwynt; a'r colofnau eraill a'r swmerau oedd o'u blaen hwythau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yna neuadd golofnog oedd yn ddau ddeg dau metr o hyd ac un deg tri metr a hanner o led. O flaen hon roedd cyntedd gyda pileri a canopi drosto.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaeth Neuadd y Colofnau hefyd, yn hanner can cufydd o hyd a deg cufydd ar hugain o led, a chyntedd o'i blaen gyda cholofnau, a chornis uwchben.