1 Kings 8:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Solomon a gasglodd henuriaid Israel, a holl bennau y llwythau, a thywysogion tadau meibion Israel, at y brenin Solomon, yn Jerwsalem, i ddwyn i fyny arch cyfamod yr ARGLWYDD o ddinas Dafydd, honno yw Seion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Solomon yn galw arweinwyr Israel (pennaeth pob llwyth a phob teulu) ato i Jerwsalem. Roedd Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD i gael ei symud o Ddinas Dafydd (sef Seion) i'w chartref newydd yn y deml.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna cynullodd y Brenin Solomon henuriaid Israel a holl benaethiaid y llwythau a phennau-teuluoedd Israel ato'i hun yn Jerwsalem, i gyrchu arch cyfamod yr ARGLWYDD o Ddinas Dafydd, sef Seion.