1 Kings 8:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd, O ARGLWYDD DDUW Israel, nid oes DUW fel tydi, yn y nefoedd oddi uchod, nac ar y ddaear oddi isod, yn cadw cyfamod a thrugaredd â'th weision sydd yn rhodio ger dy fron di â'u holl galon;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a gweddïo, “O ARGLWYDD, Duw Israel, does dim Duw tebyg i ti yn y nefoedd uchod nac i lawr yma ar y ddaear! Ti mor ffyddlon, yn cadw dy ymrwymiad i dy weision, y rhai sydd wir eisiau bod yn ufudd i ti.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dweud: "O ARGLWYDD Dduw Israel, nid oes Duw fel tydi yn y nef uwchben nac ar ddaear lawr, yn cadw cyfamod ac yn ffyddlon i'th bobl sy'n dy wasanaethu 'u holl galon.