1 Kings 8:50 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A maddau i'th bobl a bechasant i'th erbyn, a'u holl gamweddau yn y rhai y troseddasant i'th erbyn, a phâr iddynt gael trugaredd gerbron y rhai a'u caethgludasant, fel y trugarhaont wrthynt hwy:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maddau i dy bobl yr holl bechodau a'r pethau drwg maen nhw wedi eu gwneud yn dy erbyn di. Gwna i'r rhai sydd wedi eu concro nhw eu trin nhw'n garedig.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A maddau i'th bobl a bechodd yn d'erbyn am eu holl droseddu yn d'erbyn; rho iddynt ennyn trugaredd yng nghalon y rhai a'u caethgludodd.