1 Kings 8:64 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y dwthwn hwnnw y sancteiddiodd y brenin ganol y cyntedd oedd o flaen tŷ yr ARGLWYDD: canys yno yr offrymodd efe y poethoffrymau, a'r bwyd‐offrymau, a braster yr offrymau hedd: oherwydd yr allor bres, yr hon oedd gerbron yr ARGLWYDD, oedd ry fechan i dderbyn y poethoffrymau, a'r bwyd‐offrymau, a braster yr offrymau hedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar y diwrnod hwnnw hefyd, dyma'r brenin yn cysegru canol yr iard o flaen teml yr ARGLWYDD. Dyna ble wnaeth e offrymu aberthau i'w llosgi'n llwyr, yr offrymau o rawn, a braster yr offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Roedd yr allor bres oedd o flaen yr ARGLWYDD yn rhy fach i ddal yr holl offrymau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar y diwrnod hwnnw cysegrodd y brenin ganol y cwrt oedd o flaen tu375?'r ARGLWYDD, gan mai yno'r oedd yn offrymu'r poethoffrwm a'r bwydoffrwm a braster yr heddoffrwm, am fod yr allor bres oedd gerbron yr ARGLWYDD yn rhy fach i dderbyn y poethoffrwm a'r bwydoffrwm a braster yr heddoffrwm.