1 Kings 8:66 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r wythfed dydd y gollyngodd efe ymaith y bobl: a hwy a fendithiasant y brenin, ac a aethant i'w pebyll yn hyfryd ac â chalon lawen, am yr holl ddaioni a wnaethai yr ARGLWYDD i Dafydd ei was, ac i Israel ei bobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y diwrnod wedyn, dyma fe'n anfon y bobl adre. Dyma nhw'n bendithio'r brenin a mynd adre'n hapus, am fod yr ARGLWYDD wedi gwneud cymaint o bethau da i'w was Dafydd ac i'w bobl Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar yr wythfed dydd gollyngodd y bobl ymaith, ac wedi iddynt fendithio'r brenin, aethant adref yn llawen ac yn falch o galon am yr holl ddaioni a wnaeth yr ARGLWYDD i'w was Dafydd ac i'w bobl Israel.