1 Kings 9:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pharo brenin yr Aifft a aethai i fyny, ac a enillasai Geser, ac a'i llosgasai hi â thân, ac a laddasai y Canaaneaid oedd yn trigo yn y ddinas, ac a'i rhoddasai hi yn anrheg i'w ferch, gwraig Solomon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Roedd y Pharo, brenin yr Aifft, wedi concro dinas Geser. Roedd wedi ei llosgi'n ulw a lladd y Canaaneaid oedd yn byw yno. Yna roedd wedi ei rhoi yn anrheg priodas i'w ferch, gwraig Solomon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd Pharo brenin yr Aifft wedi dod a chipio Geser, a'i llosgi, a lladd y Canaaneaid oedd yn byw yn y ddinas, ac yna wedi ei rhoi'n anrheg briodas i'w ferch, gwraig Solomon;