1 Kings 9:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai hyn oedd bennaf ar y swyddogion oedd ar waith Solomon, pum cant a deg a deugain, oedd yn llywodraethu y bobl oedd yn gweithio yn y gwaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac roedd yna bum cant pum deg ohonyn nhw yn arolygu prosiectau adeiladu Solomon a gwneud yn siŵr fod y gweithwyr yn gwneud eu gwaith.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a hwy hefyd oedd prif arolygwyr gwaith Solomon pum cant a hanner ohonynt, yn rheoli'r gweithwyr.