1 Peter 1:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am yr hwn ddiogelwch ir ymofynasont, ac y chwiliasont y prophwydi, rrain a prophwydasont am y gras oedd taac attochi,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
am yr hon iachawdwriaeth yr ymofynodd ac y manwl-chwiliodd y prophwydi a brophwydasant am y gras a ddeuai i chwi, gan chwilio pa bryd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
yr iachawdwriaeth yr ymofynnodd ac y dyfal-chwiliodd amdani broffwydi a broffwydodd am y gras a drefnwyd i chwi,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am yr hon iachawdwriaeth yr ymofynnodd, ac y manwl chwiliodd y proffwydi, y rhai a broffwydasant am y gras a ddeuai i chwi:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y proffwydi'n sôn am yr achubiaeth oedd i'w rhoi yn rhodd i chi. Buon nhw'n edrych yn fanwl i'r cwbl, ond heb ddeall popeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Iachawdwriaeth yw hon y bu ymofyn ac ymorol dyfal amdani gan y proffwydi a broffwydodd am y gras oedd i ddod i chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am yr hon iachawdwriaeth y dyfal‐geisiodd ac y manwl-chwiliodd y prophwydi, y rhai a brophwydasant am y gras a ddeuai i chwi;