1 Peter 1:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gan ymgais pa bryd neu pa ryw amser y gwnai ysbryd Christ oedd ynthyntwy yn testlauthu yn y blaen, ysbusu, y dioddefau y gaffai Christ, ar gogoniant ay cydcanlynay hwynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
neu ba ryw bryd, a hyspysai Yspryd Crist, yr Hwn oedd ynddynt, wrth rhag-dystiolaethu o Hono y dioddefiadau o ran Crist, a’r gogoniant ar eu hol;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan chwilio at bwy neu at ba fath adeg y cyfeiriai Ysbryd Crist a oedd ynddynt, pan oedd ef yn rhagdystiolaethu am ddioddefiadau Crist a’r gogoniannau a’u dilynai;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan chwilio pa bryd, neu pa ryw amser, yr oedd Ysbryd Crist, yr hwn oedd ynddynt, yn ei hysbysu, pan oedd efe yn rhagdystiolaethu dioddefaint Crist, a'r gogoniant ar ôl hynny.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yr Ysbryd oedd gyda nhw wedi dweud wrthyn nhw ymlaen llaw am beth fyddai'r Meseia yn ei ddioddef ac am yr holl bethau ffantastig fyddai'n digwydd wedyn. Ond beth yn union oedd Ysbryd y Meseia'n cyfeirio ato? Pryd fyddai'r cwbl yn digwydd?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Holi yr oeddent at ba amser neu amgylchiadau yr oedd Ysbryd Crist o'u mewn yn cyfeirio, wrth dystiolaethu ymlaen llaw i'r dioddefiadau oedd i ddod i ran Crist, ac i'w canlyniadau gogoneddus.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan chwilio pa amser neu pa fath amser yr oedd Yspryd Crist yr hwn oedd ynddynt, yn ei nodi, pan oedd efe yn rhag‐dystiolaethu dyoddefiadau Crist a'r gogoniant ar eu hol.