1 Peter 1:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ir rrain y dangoswyd, nad vddyntwy, eithyr y nyni y gwasnaythay y pethau a fanegwyd y chwi trwy yr hai a bregethasont ywch yr efengl trwyr ysbryd glan a ddanfoned or nef oedd, ac ar yrrain y chwennych yr angylion gael edrych.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
i’r rhai y datguddiwyd mai nid iddynt hwy eu hunain, ond i chwi y gweinyddent y pethau sydd yn awr wedi eu mynegi i chwi trwy y rhai a efengylasant i chwi trwy’r Yspryd Glân wedi ei ddanfon o’r nef: i’r hyn bethau y chwennych angylion ymgrymmu i edrych.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
i’r rhai y datguddiwyd nad iddynt hwy eu hunain ond i chwi yr oeddynt yn gweinyddu’r pethau hyn sy’n awr wedi eu hysbysu i chwi drwy’r rhai a gyhoeddodd yr Efengyl i chwi drwy’r Ysbryd Glân a ddanfonwyd o’r nef, pethau y mae angylion yn chwenychu syllu arnynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I'r rhai y datguddiwyd, nad iddynt hwy eu hunain, ond i ni, yr oeddynt yn gweini yn y pethau a fynegwyd yn awr i chwi, gan y rhai a efengylasant i chwi trwy'r Ysbryd Glân, yr hwn a ddanfonwyd o'r nef; ar yr hyn bethau y mae'r angylion yn chwenychu edrych.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Esboniwyd iddyn nhw fod y pethau hynny ddim yn mynd i ddigwydd yn eu cyfnod nhw, ond yn y dyfodol, yn ein cyfnod ni. A bellach mae'r cwbl wedi ei rannu gyda chi gan y rhai sydd wedi dod â'r newyddion da i chi, gyda nerth yr Ysbryd Glân gafodd ei anfon o'r nefoedd. Mae'r angylion hyd yn oed yn ysu am gael deall y pethau hyn yn well.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Datguddiwyd i'r proffwydi hyn nad arnynt eu hunain ond arnoch chwi yr oeddent yn gweini wrth sn am y pethau sydd yn awr wedi eu cyhoeddi i chwi gan y rhai a bregethodd yr Efengyl i chwi drwy nerth yr Ysbryd Gln, a anfonwyd o'r nef. Pethau yw'r rhain y mae angylion yn chwenychu edrych arnynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
I'r rhai y dadguddiwyd nad iddynt hwy eu hunain ond i chwi yr oeddent yn gweinyddu y pethau hyn, y rhai yn awr sydd wedi eu hyspysu i chwi trwy y rhai a efengylasant i chwi trwy yr Yspryd Glân a anfonwyd allan o'r nef: i'r hyn bethau y mae angelion yn awyddu edrych.