1 Peter 1:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O blegid hyn gwregyswch llwynay ych meddwl: byddwch sobr: a’ gobeithiwch yn berffaith ar y gras a ddycpwyd attoch, drwy ðrychioleth Iesu Christ,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O herwydd paham, wedi gwregysu lwynau eich meddwl, gan fod yn sobr, gobeithiwch yn berffaith am y gras sy’n cael ei ddwyn attoch yn natguddiad Iesu Grist;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hynny, gan wregysu lwynau eich meddwl, byddwch sobr, a gosodwch eich gobaith yn gwbl ar y gras a ddygir i chwi yn natguddiad Iesu Grist,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd paham, gan wregysu lwynau eich meddwl, a bod yn sobr, gobeithiwch yn berffaith am y gras a ddygir i chwi yn natguddiad Iesu Grist;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, byddwch yn barod a gwyliwch sut ydych chi'n ymddwyn. Rhowch eich gobaith yn llwyr yn y rhodd sy'n dod i chi ar y diwrnod pan fydd Iesu Grist yn dod i'r golwg eto.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gan hynny, rhowch fin ar eich meddwl, ymddisgyblwch, a gosodwch eich gobaith yn gyfan gwbl ar y gras sy'n cael ei ddwyn atoch pan ddatguddir Iesu Grist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O herwydd paham, gan wregysu lwynau eich meddwl, gan fod yn berffaith sobr, gobeithiwch am y grâs sydd yn cael ei ddwyn i chwi yn Nadguddiad Iesu Grist;