1 Peter 1:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac as gelwchi ef yn Tad, rrwn heb ystyriaeth person a farna ar ol gweithred pawb, ymddygwch tros amser ych preswylfa yma mewn ofn,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac os megis Tad, yr ydych yn galw ar yr Hwn sydd heb dderbyn gwyneb, yn barnu yn ol gweithred pob un, am amser eich ymdeithiad ymddygwch mewn ofn,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac os ar Dad yr ydych yn galw, sy’n barnu’n ddidderbyn wyneb yn ôl gweithred pob un, ymddygwch mewn ofn dros amser eich pererindod,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os ydych yn galw ar y Tad, yr hwn sydd heb dderbyn wyneb yn barnu yn ôl gweithred pob un, ymddygwch mewn ofn dros amser eich ymdeithiad:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae Duw yn barnu pawb yn hollol deg ar sail beth maen nhw wedi ei wneud, Felly os dych chi'n galw Duw yn dad i chi, dylech roi iddo'r parch mae'n ei haeddu a byw fel pobl sydd oddi cartref yn y byd yma.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac os fel Tad yr ydych yn galw ar yr hwn sydd yn barnu'n ddidderbynwyneb yn l gwaith pob un, ymddygwch mewn parchedig ofn dros amser eich alltudiaeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac os ydych yn galw arno ef fel Tâd, yr hwn heb dderbyn wyneb sydd yn barnu yn ol gweithred pob un, am amser eich ymdeithiad ymddygwch mewn ofn;