1 Peter 1:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A chwi yn gwybod nad a phethau llygredic megis arian nei aur ich ymwaredwyd o ddiwrth ofer ymwreddiad, a gowsoch o ’osodigaythay’r tadau,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan wybod mai nid â phethau llygradwy, arian neu aur, y’ch prynwyd o’ch ofer ymarweddiad a draddodwyd oddiwrth eich tadau,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan wybod nad â phethau llygradwy, arian neu aur, y’ch prynwyd oddi wrth eich ofer ymarweddiad a drosglwyddwyd i chwi oddi wrth eich tadau,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan wybod nad â phethau llygredig, megis arian neu aur, y'ch prynwyd oddi wrth eich ofer ymarweddiad, yr hwn a gawsoch trwy draddodiad y tadau;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Talodd Duw bris uchel i'ch gollwng chi'n rhydd o wagedd y ffordd o fyw gafodd ei phasio i lawr i chi gan eich hynafiaid. A dim pethau sy'n darfod fel arian ac aur gafodd eu defnyddio i dalu'r pris hwnnw,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwyddoch nad phethau llygradwy, arian neu aur, y prynwyd ichwi ryddid oddi wrth yr ymarweddiad ofer a etifeddwyd gennych,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan wybod nad â phethau llygredig, megys arian neu aur, y'ch prynwyd o'ch ofer ymarweddiad a drosglwyddwyd o'ch tadau;