1 Peter 1:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Rrain ydych trwyddo ef yn credu i Ddyw, rrwn ay cyvodes ef o ddiwrth y meirw, ac a roðes iddo ef ogoniant, mal y bay ych ffydd chwi ach gobaith ar Ddyw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
y rhai, Trwyddo Ef, ydych yn gredinwyr yn Nuw yr Hwn a’i cyfododd Ef o feirw, a gogoniant a roddodd Iddo Ef, fel y byddai eich ffydd a’ch gobaith yn Nuw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
y sydd trwyddo ef yn ffyddlon i Dduw, yr hwn a’i cyfododd ef oddi wrth y meirw ac a roes iddo ogoniant, fel y byddai eich ffydd chwi a’ch gobaith yn Nuw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai ydych trwyddo ef yn credu yn Nuw, yr hwn a'i cyfododd ef oddi wrth y meirw, ac a roddodd iddo ef ogoniant, fel y byddai eich ffydd chwi a'ch gobaith yn Nuw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Trwy beth wnaeth e, dych chi wedi dod i gredu yn Nuw. Am fod Duw wedi ei godi yn ôl yn fyw a'i anrhydeddu, dych chi'n gallu trystio Duw yn llwyr, a rhoi'ch gobaith ynddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
sydd drwyddo ef yn credu yn Nuw, yr hwn a'i cyfododd ef oddi wrth y meirw ac a roes iddo ogoniant, fel y byddai eich ffydd a'ch gobaith chwi yn Nuw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
y rhai trwyddo ef ydych gredinwyr yn Nuw, yr hwn a'i cyfododd ef o feirw, ac a roddodd iddo ef ogoniant, fel y byddai eich ffydd chwi a'ch gobaith yn Nuw.