1 Peter 1:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A chwi gwedi puro ych eneidiau, am vfuddhau ir gwirionedd trwyr ysbryd, mewn cariad broduraidd diweniaeth, cerwch bavvb y gilidd yn ’rymus,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr eneidiau wedi eu puro genych yn eich ufudd-dod i’r Gwirionedd, i frawdgarwch diragrith, o’r galon cerwch y naill y llall yn llwyrfrydig,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wedi glanhau eich eneidiau trwy ufudd-dod i’r gwirionedd i frawdgarwch diffuant, cerwch eich gilydd o’r galon yn selog,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwedi puro eich eneidiau, gan ufuddhau i'r gwirionedd trwy'r Ysbryd, i frawdgarwch diragrith, cerwch eich gilydd o galon bur yn helaeth:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Am eich bod chi bellach yn dilyn y gwir, dych chi wedi cael eich gwneud yn lân ac yn dangos gofal go iawn am eich gilydd. Felly daliwch ati i garu eich gilydd, a hynny o waelod calon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gan eich bod, trwy eich ufudd-dod i'r gwirionedd, wedi puro eich eneidiau nes ennyn brawdgarwch diragrith, carwch eich gilydd o galon bur yn angerddol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Chwychwi, wedi puro eich eneidiau yn eich ufudd‐dod i'r gwirionedd i frawdgarwch diragrith, cerwch eich gilydd o'r galon yn wresog;