1 Peter 1:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Chwi a aned o newydd, nid o hil farwol eithr o hil anfarwol trwy air Dyw, rrwn sy fyw ac yn aros yn dragwyddol.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
wedi eich adgenhedlu, nid o had llygradwy, eithr anllygradwy, trwy Air byw Duw a pharhaus:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
wedi eich hadgenhedlu nid o had llygradwy eithr drwy air anllygradwy Duw sy’n byw ac yn parhau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wedi eich aileni, nid o had llygredig, eithr anllygredig, trwy air Duw, yr hwn sydd yn byw ac yn parhau yn dragywydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedi'r cwbl, dych chi wedi cael eich geni o'r newydd! Mae'r bywyd dych chi wedi ei dderbyn gan eich rhieni yn rhywbeth sy'n darfod, ond mae'r bywyd newydd yn para am byth. Mae neges Duw wedi ei phlannu ynoch chi, ac mae hi'n neges sy'n rhoi bywyd ac sy'n aros am byth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr ydych wedi eich geni o'r newydd, nid o had llygradwy, ond anllygradwy, trwy air Duw, sydd yn fyw ac yn aros.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
wedi eich hadgenhedlu, nid o hâd llygredig, eithr anllygredig, trwy air bywiol ac arosol Duw.