1 Peter 1:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Bendigedic fo Dyw, a thad eyn harglwydd Iesu Christ, rrwn oi fawr drugaredd an adenillawð ni, y obaith bywiol trwy ail gyfodiad Iesu Christ o ddiwrth y meirw,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr Hwn yn ol Ei fawr drugaredd a’n had-genhedlodd i obaith byw trwy adgyfodiad Iesu Grist o feirw,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Bendigedig fo Duw a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist, yr hwn, yn ôl ei fawr drugaredd, a’n hadgenhedlodd ni i obaith byw drwy atgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn yn ôl ei fawr drugaredd a'n hadgenhedlodd ni i obaith bywiol, trwy atgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Clod i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Mae wedi bod mor drugarog aton ni. Mae'n ddechrau cwbl newydd! Dŷn ni wedi cael ein geni unwaith eto! Ac am ei fod wedi codi Iesu Grist yn ôl yn fyw dŷn ni'n edrych ymlaen yn hyderus i'r dyfodol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! O'i fawr drugaredd, fe barodd ef ein geni ni o'r newydd i obaith bywiol trwy atgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr Hwn yn ol ei fawr drugaredd a'n hadgenhedlodd ni i obaith bywiol trwy Adgyfodiad Iesu Grist o feirw,