1 Peter 1:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Rrain trwy allu Dyw ydym gadwedic herwyð ffydd y gael y diogelwch a ddarparwyd yw arddangos yn yr amser diwaythaf:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
mewn cadw yn y nef i chwi, y rhai trwy allu Duw sy’n cael eich gwarchadw trwy ffydd i iachawdwriaeth barod i’w datguddio yn yr amser diweddaf:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
y rhai yng ngallu Duw a warchedwir drwy ffydd i gadwedigaeth, barod i’w datguddio yn yr amser diwethaf.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai trwy allu Duw ydych gadwedig trwy ffydd i iachawdwriaeth, parod i'w datguddio yn yr amser diwethaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y Duw nerthol yn eich amddiffyn chi nes byddwch chi'n cael eich achub yn derfynol, am eich bod chi'n credu ynddo. Bydd pawb yn gweld hynny'n digwydd pan fydd y foment olaf yn cyrraedd a'r byd yn dod i ben.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
chwi sydd trwy ffydd dan warchod gallu Duw hyd nes y daw iachawdwriaeth, yr iachawdwriaeth sydd yn barod i'w datguddio yn yr amser diwethaf.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
y rhai trwy allu Duw ydych warchodedig trwy ffydd i iachawdwriaeth, parod i'w dadguddio yn yr amser diweddaf.