1 Peter 1:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn yr hwn beth y ddych yn llawenhau, cyd byddech ennyd bach (o ba raid) mewn tristwch, herwydd amryw brofedigaythay,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yn yr hwn yr ydych yn gorfoleddu, er am ychydig yn awr, os rhaid sydd, wedi eich tristau mewn amryw demtasiynau,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn hyn yr ydych yn gorfoleddu, er eich bod yn awr os rhaid yw, wedi eich dwyn i dristwch dros ychydig, oherwydd amrywiol brofedigaethau,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn yr hyn yr ydych yn mawr lawenhau, er eich bod ychydig yr awron, os rhaid yw, mewn tristwch, trwy amryw brofedigaethau:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly gallwch fod yn llawen, er bod pethau'n anodd ar hyn o bryd, a'ch bod chi'n gorfod dioddef pob math o dreialon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn wyneb hyn yr ydych yn gorfoleddu, er eich bod, fe ddichon, yn awr yn profi blinder dros dro dan amrywiol brofedigaethau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn yr hyn yr ydych yn mawr lawenhau, er eich bod am ychydig, yn awr, os rhaid yw, wedi eich tristâu mewn amrywiol brofedigaethau,