1 Peter 1:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mal y ceffer profiad ych ffydd chwi, sy werthfowrusach nor aur colledic, (cyd profer ef trwy dan) ir mawl, ac anrrydedd a’ gogoniant yvvch, pan ymddangoso Iesu Christ:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel y bo i brofiad eich ffydd, yr hwn sydd werthfawrusach nag aur y sy’n darfod a thrwy dân yn cael ei brofi, ei gaffael er mawl a gogoniant ac anrhydedd yn natguddiad Iesu Grist;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fel yn y prawf y caffer eich ffydd chwi’n fwy gwerthfawr nag aur sy’n darfod, er ei buro drwy dân, er mawl a gogoniant ac anrhydedd yn natguddiad Iesu Grist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel y caffer profiad eich ffydd chwi, yr hwn sydd werthfawrusach na'r aur colladwy, cyd profer ef trwy dân, er mawl, ac anrhydedd, a gogoniant, yn ymddangosiad Iesu Grist:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r pethau yma'n digwydd er mwyn dangos eich bod chi'n credu go iawn. Mae'r un fath â'r broses o buro aur mewn ffwrnais, ond bod ffydd yn rhywbeth llawer mwy gwerthfawr nag aur. Byddwch yn derbyn canmoliaeth, ysblander ac anrhydedd pan fydd Iesu Grist yn dod i'r golwg eto.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae hyn wedi digwydd er mwyn i ddilysrwydd eich ffydd chwi, sy'n fwy gwerthfawr na'r aur sy'n darfod ac y mae hwnnw'n cael ei brofi trwy dn gael ei amlygu er mawl a gogoniant ac anrhydedd pan ddatguddir Iesu Grist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel y caffer fod prawf eich ffydd chwi, yr hwn sydd werthfawrocach na'r aur colladwy er ei brofi trwy dân, er mawl a gogoniant ac anrhydedd yn Nadguddiad Iesu Grist: