1 Peter 2:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
HErwydd hyn, dodwch heibio pob malais a phob twyll, a phob rragrith, a’ chenvigen, a phob goganair.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wedi rhoi ymaith, gan hyny, bob drygioni, a phob twyll a rhagrith a chenfigennau,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gan fwrw heibio felly bob malais a phob dichell a rhagrithiau a chenfigennau a phob goganau,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wedi rhoi heibio gan hynny bob drygioni, a phob twyll, a rhagrith, a chenfigen, a phob gogan-air,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, rhaid i chi gael gwared â phopeth drwg o'ch bywydau — pob twyll, balchder dauwynebog, cenfigennu wrth eraill ac enllibio pobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymaith gan hynny phob drygioni a phob twyll a rhagrith a chenfigen, a phob siarad bychanus!
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Wedi rhoddi ymaith, gan hynny, bob malais, a phob twyll, a rhagrith, a chenfigennau, a phob enllibau,