1 Peter 2:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Rrain gynt nid pobl oyddech, yn awr hagen pobl Ddyw: rrain gynt ni doed ywch trugaredd, yn awr hagen a freiniasoch trugaredd. Yr Epistol y iij. Sul gwedy yr Pasc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
y rhai gynt nid oeddych bobl, ond yn awr pobl Dduw ydych; y rhai ni thrugarhawyd wrthych, ond yn awr wedi cael trugaredd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
y rhai gynt nid oeddech bobl, ond yn awr ydych bobl Dduw, rhai oedd heb drugaredd, ond yn awr a gafodd drugaredd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai gynt nid oeddech bobl, ond yn awr ydych bobl i Dduw: y rhai ni chawsech drugaredd, ond yr awron a gawsoch drugaredd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar un adeg doeddech chi'n neb o bwys, ond bellach chi ydy pobl Dduw. Ar un adeg doeddech chi ddim wedi profi trugaredd Duw, ond bellach dych wedi profi ei drugaredd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"A chwi gynt heb fod yn bobl, yr ydych yn awr yn bobl Dduw; a chwi gynt heb dderbyn trugaredd, yr ydych yn awr yn rhai a dderbyniodd drugaredd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
y rhai gynt nid oeddych bobl, eithr yn awr ydych bobl i Dduw; y rhai ni thrugarhawyd wrthych, ond yn awr a gawsoch drugaredd.