1 Peter 2:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Vyn grredigion, ytolwc ywch, megis dieithraid a phererinion ymgedwch o ddiwrth trachwantayr cnawd, rrain sy yn rryfela yn erbyn yr cnaid,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Anwylyd, cynghoraf chwi megis ymdeithyddion a dieithriaid, i ymgadw oddiwrth chwantau cnawdol, rhai sy’n milwrio yn erbyn yr enaid,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Anwyliaid, ’rwy’n erfyn arnoch fel dieithriaid a dyfodiaid i ymochel rhag chwantau cnawdol y sy’n rhyfela yn erbyn yr enaid;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Anwylyd, yr wyf yn atolwg i chwi, megis dieithriaid a phererinion, ymgedwch oddi wrth chwantau cnawdol, y rhai sydd yn rhyfela yn erbyn yr enaid;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ffrindiau annwyl, dim y byd yma ydy'ch cartref chi. Dych chi fel pobl ddieithr yma. Felly dw i'n apelio arnoch chi i wrthod gwneud beth mae'r chwantau naturiol am i chi ei wneud. Mae nhw'n brwydro yn erbyn beth sydd orau i ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gyfeillion annwyl, rwy'n deisyf arnoch, fel alltudion a dieithriaid, i ymgadw rhag y chwantau cnawdol sydd yn rhyfela yn erbyn yr enaid.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Anwyliaid, yr wyf yn atolwg i chwi megys ymdeithyddion a dyeithriaid, i ymgadw oddiwrth chwantau cnawdol, y rhai sydd yn milwrio yn erbyn yr enaid;