1 Peter 2:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A bid ych ymwreddiad yn honest ymysc y cenhedloedd, mal y gallo rrai sy ich goganu mal pe byddech afrifeid, herwydd y ch gweithredoedd da y welant, foliannu Dyw yn y dydd ir ymweler ac wynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan fod a’ch ymarweddiad ymhlith y cenhedloedd yn dda, fel yn yr hyn y maent yn eich enllibio megis drwg-weithredwyr, y bo iddynt, oddiwrth eich gweithredoedd da, gan eu gweled, ogoneddu Duw yn nydd ymweliad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a’ch rhodiad yn hardd ymhlith y Cenhedloedd, fel yn y peth y’ch gogenir fel drwgweithredwyr, y gogoneddent Dduw yn nydd ymweliad, oherwydd y gweithredoedd da a welant.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan fod â'ch ymarweddiad yn onest ymysg y Cenhedloedd: fel, lle maent yn eich goganu megis drwgweithredwyr, y gallont, oherwydd eich gweithredoedd da a welant, ogoneddu Duw yn nydd yr ymweliad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dylech chi fyw bywydau da. Wedyn fydd pobl sydd ddim yn credu ddim yn gallu'ch cyhuddo chi o wneud drwg. Yn lle gwneud hynny byddan nhw'n gweld y pethau da dych chi'n eu gwneud ac yn dod i gredu. Byddan nhw'n canmol Duw ar y diwrnod hwnnw pan fydd yn dod atyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydded eich ymarweddiad ymhlith y Cenhedloedd mor amlwg o dda nes iddynt hwy, lle y maent yn awr yn eich sarhau fel drwgweithredwyr, ogoneddu Duw yn nydd ei ymweliad ar gyfrif yr hyn a welant o'ch gweithredoedd da chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan fod â'ch ymarweddiad yn weddaidd ym mhlith y Cenhedloedd; fel, yn yr hyn y maent yn eich enllibio fel drwg‐weithredwyr, y gallont, trwy weled eich gweithredoedd da, y rhai a welant, ogoneddu Duw yn Nydd yr Ymweliad.