1 Peter 2:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwenidogion, ymostyngant mewn pob ofn yw meistred, nid yn vnic ir rrai da cywaythas, eithr yr ir anghyweithas hevyd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y gweinidogion, byddwch yn ymddarostwng, gyda phob ofn, i’ch meistriaid; nid unig i’r rhai da ac addfwyn, eithr hefyd i’r rhai gwyrog;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y gweision, ymddarostyngwch gyda phob ofn i’r meistriaid, nid yn unig i’r rhai da a thirion eithr i’r rhai trawsion hefyd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y gweision, byddwch ddarostyngedig gyda phob ofn i'ch meistriaid; nid yn unig i'r rhai da a chyweithas, eithr i'r rhai anghyweithas hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dylech chi sy'n gaethweision barchu eich meistri — nid dim ond os ydyn nhw'n feistri da a charedig, ond hyd yn oed os ydyn nhw'n greulon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Chwi weision, byddwch ddaros-tyngedig i'ch meistri gyda phob parchedig ofn, nid yn unig i'r rhai da ac ystyriol ond hefyd i'r rhai gormesol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y gweision teuluol, ymddarostyngwch gyda phob ofn i'ch meistriaid, nid yn unig i'r rhai da ac addfwyn, ond hefyd i'r trofaus;