1 Peter 2:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys hyn sy rasol, as herwydd cydwybod i Ddyw, y bo y neb cydymddwyn molestay, yn goddau yn ddiachos. Yr Epistol yr ail Sul gwedy yr Pasc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys hyn sydd ddiolch-wiw, os o herwydd cydwybod tuag at Dduw y goddef neb gystuddiau, gan ddioddef ar gam;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys hyn yw gras, os bydd un oherwydd ei ymwybod â Duw yn ymgynnal dan ddoluriau, gan ddioddef ar gam.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys hyn sydd rasol, os yw neb oherwydd cydwybod i Dduw yn dwyn tristwch, gan ddioddef ar gam.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n plesio Duw pan dych chi'n penderfynu bod yn barod i ddioddef hyd yn oed pan dych chi'n cael eich cam-drin.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oblegid hyn sydd gymeradwy, bod rhywun, am fod ei feddylfryd ar Dduw, yn dygymod 'i flinderau er iddo ddioddef ar gam.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys hyn sydd achos diolch, os yw neb o herwydd ymwybodolrwydd o Dduw yn dwyn tristwch, gan ddyoddef ar gam;