1 Peter 2:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O blegid pa glod yw, ir bod yn dda ych ymynedd pan cernotter chwi am ych beie? eithyr pan wneloch dda, ac ir hynny yn dda ych ymnnedd yn goddef cam, hyn sy rasol gar bron Dyw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys pa glod, os pan yn pechu ac yn cael eich cernodio, y dygwch ef yn amyneddgar? Eithr os pan yn gwneuthur yr hyn sydd dda, ac yn dioddef, y dygwch ef yn amyneddgar, hyn sydd ddiolch-wiw gyda Duw:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys pa glod yw os wrth bechu a chael eich cernodio y byddwch yn goddef; ond os wrth wneuthur da a dioddef y goddefwch, hyn sydd ras gyda Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid pa glod yw, os, pan bechoch, a chael eich cernodio, y byddwch dda eich amynedd? eithr os, a chwi'n gwneuthur yn dda, ac yn dioddef, y byddwch dda eich amynedd, hyn sydd rasol gerbron Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Does dim rheswm i ganmol rhywun am fodloni cael ei gosbi os ydy e wedi gwneud drwg. Ond os ydych chi'n fodlon dioddef er eich bod chi wedi gwneud y peth iawn, mae hynny'n plesio Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd pa glod sydd mewn dygymod chael eich cernodio am ymddwyn yn ddrwg? Ond os am wneud daioni y byddwch yn dioddef, ac yn dygymod hynny, dyna'r peth sy'n gymeradwy gan Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys pa glod yw, os pan yn pechu ac yn cael eich dyrnodio, y dygwch ef yn amyneddgar? Eithr os pan yn gwneuthur da, gan ddyoddef, y dygwch ef yn amyneddgar, y mae hyn yn achos diolch i chwi gyda Duw: