1 Peter 2:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Rrwn pan ddirmygwyd ef, ni ddirmygawð eilwaith: pan ddyoddefawdd, ni vygythiodd, eithyr bwrw y dialedd at y neb sy yn barnu yn gyfion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond pan yn cael Ei ddifenwi, ni ddifenwai drachefn; pan yn dioddef, ni fygythiai; ond traddodai Ei hun i’r Hwn sy’n barnu yn gyfiawn:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
yr hwn pan ddifenwid ni ddifenwai’n ôl, pan ddioddefai ni fygythiai, ond ymgyflwyno i’r Un sy’n barnu’n gyfiawn;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn, pan ddifenwyd, ni ddifenwodd drachefn; pan ddioddefodd, ni fygythiodd; eithr rhoddodd ar y neb sydd yn barnu yn gyfiawn:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wnaeth e ddim ateb yn ôl pan oedd pobl yn ei regi a'i sarhau e; wnaeth e ddim bygwth unrhyw un pan oedd e'n dioddef. Yn lle hynny, gadawodd y mater yn nwylo Duw sydd bob amser yn barnu'n deg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan fyddai'n cael ei ddifenwi, ni fyddai'n difenwi'n l; pan fyddai'n dioddef, ni fyddai'n bygwth, ond yn ei gyflwyno'i hun i'r Un sy'n barnu'n gyfiawn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr hwn, pan ddifenwyd, ni ddifenwai yn ol; pan yn dyoddef, ni fygythiai, eithr traddodai ei hun i'r hwn sydd yn barnu yn gyfiawn;