1 Peter 2:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Rrwn y hun a ddug yn pechoday ni yn eu corff ar y pren, val y gallem ni wedi eyn ymwared o ywrth pechod, fyw y gyfiawnder, trwy cleisiau rrwn yr iachaywyd chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr Hwn ein pechodau Efe Ei hun a ddug yn Ei gorph ar y pren; fel, ar ol i bechodau y buom feirw, i gyfiawnder y byddom byw; trwy gleisiau yr Hwn y’ch iachawyd:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
yr hwn ei hun a ddug ein pechodau ni yn ei gorff ar y pren, er mwyn i ni, wedi inni ddarfod â phechodau, fyw mewn cyfiawnder; trwy gleisiau ’r hwn yr iachawyd chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn ei hun a ddug ein pechodau ni yn ei gorff ar y pren; fel, gwedi ein marw i bechodau, y byddem byw i gyfiawnder: trwy gleisiau yr hwn yr iachawyd chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cariodd ein pechodau ni yn ei gorff ar y pren, er mwyn i ni, a'n pechodau wedi mynd, allu byw i wneud beth sy'n iawn. Dych chi wedi cael eich iacháu am ei fod e wedi ei glwyfo!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ef ei hun a ddygodd ein pechodau yn ei gorff ar y croesbren, er mwyn i ni ddarfod 'n pechodau a byw i gyfiawnder. Trwy ei archoll ef y cawsoch iachd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr hwn ei hun a ddug ein pechodau yn ei gorph ar y pren, fel, wedi darfod â phechodau, y byddem byw i gyfiawnder; trwy gleisiau yr hwn y'ch iachawyd chwi,