1 Peter 2:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys y royddech megis defaid yn mynd ar ddidro: eithr yn awr chwi a droysoch at bigail, ac escob ych eneidiau.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys oeddych, fel defaid, yn myned ar gyfeiliorn; eithr dychwelwyd chwi yn awr at Fugail ac Esgob eich eneidiau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys yr oeddech fel defaid ar gyfeiliorn, ond yn awr troesoch at Fugail a Gwarcheidwad eich eneidiau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr oeddech megis defaid yn myned ar gyfeiliorn; eithr yn awr chwi a ddychwelwyd at Fugail ac Esgob eich eneidiau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roeddech chi'n arfer bod fel defaid wedi mynd ar goll, ond dych chi bellach wedi dod yn ôl at y Bugail sy'n gofalu amdanoch chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd yr oeddech fel defaid ar ddisberod, ond yn awr troesoch at Fugail a Gwarchodwr eich eneidiau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys yr oeddech fel defaid yn myned ar gyfeiliorn, eithr yn awr yr ydych wedi troi yn ol at Fugail a Gwarcheidwad eich eneidiau.