1 Peter 2:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
At yr hwn y ddych yn dyvod megis at faen byw anghymradwy can ddynion, eithr can Ddyw etholedic a’ gwerthfawr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr Hwn gan ddynion yn wir a wrthodwyd, ond gyda Duw yn etholedig, yn werthfawr,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gan nesáu ato ef, maen byw, a wrthodwyd gan ddynion ond sydd etholedig, gwerthfawr gyda Duw,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
At yr hwn yr ydych yn dyfod, megis at faen bywiol, a wrthodwyd gan ddynion, eithr etholedig gan Dduw, a gwerthfawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r Arglwydd fel carreg sylfaen, ond un sy'n fyw. Dyma'r garreg gafodd ei gwrthod gan bobl, ond roedd wedi ei dewis gan Dduw ac yn werthfawr iawn yn ei olwg. Felly wrth i chi glosio at yr Arglwydd
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth ddod ato ef, y maen bywiol, gwrthodedig gan bobl ond etholedig a chlodfawr gan Dduw,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chan ddyfod ato ef, Maen Byw, gan ddynion yn wir yn wrthodedig, ond gyda Duw yn etholedig ac mewn anrhydedd; chwithau hefyd,