1 Peter 2:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac am hyny y cynhwysir yn yr scrythr, Nycha, dodi y ddwy yn Syon sail fayn arbennic, etholedic a’ gwerthfawr: ar neb a gretto yntho, nis gwradwyddir ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys y mae yn yr Ysgrythyr, “Wele, gosod yr wyf yn Tsion ben-congl-faen, etholedig, gwerthfawr; A’r hwn sy’n credu Ynddo Ef, ni chywilyddir ddim.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oblegid cynhwysir mewn ysgrythur: Wele, yr wyf yn gosod yn Sion gonglfaen etholedig, gwerthfawr, A’r hwn sy’n credu ynddo ef nis cywilyddir.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd paham y cynhwysir yn yr ysgrythur, Wele, yr wyf yn gosod yn Seion benconglfaen, etholedig, a gwerthfawr: a'r hwn a gred ynddo, nis gwaradwyddir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma pam mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fel hyn: “Edrychwch! Dw i'n gosod yn Jerwsalem garreg sylfaen werthfawr sydd wedi ei dewis gen i. Fydd y sawl sy'n credu ynddo byth yn cael ei siomi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae'n sefyll yn yr Ysgrythur: "Wele fi'n gosod maen yn Seion, conglfaen etholedig a chlodfawr, a'r hwn sy'n credu ynddo, ni chywilyddir byth mohono."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys cynhwysir yn yr Ysgrythyr: Wele, yr wyf yn gosod yn Sion ben‐congl‐faen, etholedig, mewn anrhydedd. A'r hwn a gred ynddo ef, ni chywilyddir ddim.