1 Peter 2:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O blegid hyn y chwi sawl ydych yn credu, vrddas yw: eithr yr anufuddion, y maen a wrthodasont yr edeiladwyr, hwnw a wnaed yn ben congl.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
I chwi, gan hyny, y mae’r gwerthfawrogrwydd, y rhai ydych yn credu; ond i’r rhai nad y’nt yn credu, “Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, Hwn a wnaed yn ben y gongl,”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
I chwi, gan hynny, y perthyn y gwerthfawrogi, sef i’r rhai sy’n credu; ond i’r rhai sy’n anghredu,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I chwi gan hynny, y rhai ydych yn credu, y mae yn urddas: eithr i'r anufuddion, y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwnnw a wnaed yn ben y gongl,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydy, mae'r garreg yma'n werthfawr yn eich golwg chi sy'n credu. Ond i'r rhai sy'n gwrthod credu: “Mae'r garreg wrthododd yr adeiladwyr wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen,”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae ei glod, gan hynny, yn eiddoch chwi, y credinwyr; ond i'r anghredinwyr, "Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a ddaeth yn faen y gongl",
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
I chwi gan hynny, y rhai ydych yn credu, y mae yr anrhydedd, ond i'r rhai nad ydynt yn credu, Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, Hwn a wnaed yn ben y gongl,