1 Peter 2:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn faen tramcwydd, a’ chraic afrifed, ir rrai sy yn tramgwyddo wrth y gair a hwynt yn anufydd, ir hwn beth ir ordinhawyd hwynttw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac “Yn faen taro, ac yn graig tramgwydd,” y rhai sy’n taro wrth y Gair, yn anufudd; i’r hwn beth hefyd y’u gosodwyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, gwnaethpwyd hwnnw’n ben congl a maen tramgwydd a chraig rhwystr. Tramgwydda’r rhain wrth y gair ac anufuddhau iddo, i’r hyn hefyd y tynghedwyd hwynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn faen tramgwydd, ac yn graig rhwystr, i'r rhai sydd yn tramgwyddo wrth y gair, gan fod yn anufudd; i'r hwn beth yr ordeiniwyd hwynt hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Hon hefyd ydy'r “garreg sy'n baglu pobl a chraig sy'n gwneud iddyn nhw syrthio.” Y rhai sy'n gwrthod gwneud beth mae Duw'n ei ddweud sy'n baglu. Dyna'n union oedd wedi ei drefnu ar eu cyfer nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a hefyd, "Maen tramgwydd, a chraig rhwystr." Y maent yn tramgwyddo wrth anufuddhau i'r gair; dyma'r dynged a osodwyd iddynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn faen tramgwydd, ac yn graig rhwystr, i'r rhai sydd yn tramgwyddo wrth y gair, gan fod yn anufudd: i'r hyn beth hefyd y penodwyd hwynt.