1 Peter 2:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr chwichwi cenhedlaeth etholedic ytych, brenhinawl effeiriadaeth, nasiwn santaidd, pobl syn yn briodoriaeth y Ddyvv mal i gallechi vanegi rrinweddau y neb ach galwodd o dywollwc yw ryfedd odys ’oleuni ef,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond chwychwi ydych rywogaeth etholedig, brenhinol offeiriadaeth, cenedl sanctaidd, pobl yn feddiant i Dduw fel y mynegoch rinweddau yr Hwn a’ch galwodd chwi allan o dywyllwch i’w ryfeddol oleuni Ef;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond chwi, hil etholedig ydych, brenhinol offeiriadaeth, cenedl sanctaidd, pobl sy’n eiddo priod, fel y cyhoeddech ragoriaethau’r hwn a’ch galwodd chwi o dywyllwch i’w ryfeddol oleuni ef;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr chwychwi ydych rywogaeth etholedig, brenhinol offeiriadaeth, cenedl sanctaidd, pobl briodol i Dduw; fel y mynegoch rinweddau'r hwn a'ch galwodd allan o dywyllwch i'w ryfeddol oleuni ef:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dych chi'n bobl sydd wedi eich dewis yn offeiriaid i wasanaethu'r Brenin, yn genedl sanctaidd, yn bobl sy'n perthyn i Dduw. Eich lle chi ydy dangos i eraill mor wych ydy Duw, yr Un alwodd chi allan o'r tywyllwch i mewn i'w olau bendigedig.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr ydych chwi yn hil etholedig, yn offeiriadaeth frenhinol, yn genedl sanctaidd, yn bobl o'r eiddo Duw ei hun, i hysbysu gweithredoedd ardderchog yr Un a'ch galwodd chwi allan o dywyllwch i'w ryfeddol oleuni ef:
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond chwychwi ydych rywogaeth etholedig, offeiriadaeth frenhinol, cenedl sanctaidd, pobl yn feddiant i Dduw, fel y mynegoch ragoriaethau yr hwn a'ch galwodd o dywyllwch i'w ryfeddol oleuni ef;