1 Peter 3:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys y neb a chwennych y bowyd, ac a garo weled dyddiau da. attalied eu davod o ddiwrth ddrwc, ay wefusay rrac adrodd twyll.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys “Yr hwn sy’n chwennych hoffi bywyd, A gweled dyddiau da, Attalied ei dafod oddiwrth ddrwg, A’ i wefusau rhag llefaru twyll;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys yr hwn sy’n ewyllysio caru bywyd a gweled dyddiau da, atalied y tafod rhag drwg a’r gwefusau rhag dywedyd twyll,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y neb a ewyllysio hoffi bywyd, a gweled dyddiau da, atalied ei dafod oddi wrth ddrwg, a'i wefusau rhag adrodd twyll:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei dweud: “Os dych chi am fwynhau bywyd a gweld dyddiau da, rhaid i chi reoli'ch tafod. Dweud dim byd cas am neb, a stopio twyllo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yng ngeiriau'r Ysgrythur: "Yr hwn sy'n ewyllysio caru bywyd a gweld dyddiau da, rhaid iddo atal ei dafod rhag drwg, a'i wefusau rhag llefaru celwydd;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys, Yr hwn a ewyllysia garu bywyd A gweled dyddiau da, Atalied ei dafod oddi wrth ddrwg A'i wefusau rhag llefaru twyll: