1 Peter 3:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys llygaid yr Arglwydd ’sy tuagat yr er ei cyfion, ay glustiay ef tu ac at y gweði hwynt: eithr wyneb yr Arglwydd fydd goruch y rrai a wnel drwc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys llygaid Iehofah sydd ar y cyfiawnion, Ac Ei glustiau tua’u deisyfiad; Ond gwyneb Iehofah sydd ar wneuthurwyr drygioni.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oblegid llygaid yr Arglwydd sydd ar y cyfiawn a’i glustiau ef tuag at eu deisyfiad hwynt, ond wyneb yr Arglwydd sydd yn erbyn y rhai a wna ddrwg.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y mae llygaid yr Arglwydd ar y rhai cyfiawn, a'i glustiau ef tuag at eu gweddi hwynt: eithr y mae wyneb yr Arglwydd yn erbyn y rhai sydd yn gwneuthur drwg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r Arglwydd yn gofalu am y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn ac yn gwrando'n astud ar eu gweddïau nhw; ond mae e yn erbyn y rhai sy'n gwneud drygioni.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
canys y mae llygaid yr Arglwydd ar y cyfiawn, a'i glustiau'n agored i'w deisyfiad, ond y mae wyneb yr Arglwydd yn erbyn y rhai sy'n gwneud drygioni."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys y mae llygaid yr Arglwydd ar y rhai cyfiawn, A'i glustiau ef tu ag at eu deisyfiad hwynt: Eithr wyneb yr Arglwydd sydd ar y rhai sydd yn gwneuthur drwg.