1 Peter 3:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr santeiddiwch yr Arglwydd Ddyw yn ych calonay: a’ byddwch barawd bob amser y atteb y bawp a ofynno ywch reswm am y gobaith sy ynoch,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac na’ch cynhyrfer, ond yr Arglwydd, y Crist, sancteiddiwch yn eich calonnau, yn barod yn wastad am atteb i bob un a ofyno i chwi reswm am y gobaith y sydd ynoch, eithr gydag addfwynder ac ofn;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
eithr sancteiddiwch yn eich calonnau yr Arglwydd, sef y Crist, gan fod yn wastad yn barod i amddiffyn, i’r neb a gais gyfrif gennych, am y gobaith y sydd ynoch, eto gydag addfwynder ac ofn,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr sancteiddiwch yr Arglwydd Dduw yn eich calonnau: a byddwch barod bob amser i ateb i bob un a ofynno i chwi reswm am y gobaith sydd ynoch, gydag addfwynder ac ofn:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Addolwch y Meseia â'ch holl galon, a'i gydnabod e'n Arglwydd ar eich bywydau. Byddwch barod bob amser i roi ateb i bwy bynnag sy'n gofyn i chi esbonio beth ydy'r gobaith sydd gynnoch chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond sancteiddiwch Grist yn Arglwydd yn eich calonnau. Byddwch yn barod bob amser i roi ateb i bob un fydd yn ceisio gennych gyfrif am y gobaith sydd ynoch. Ond gwnewch hynny gydag addfwynder a pharchedig ofn,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
eithr fel Arglwydd sancteiddiwch Grist yn eich calonnau; gan fod yn barod bob amser gydag ateb i bob un a ofynno i chwi reswm am y gobaith sydd ynoch,